Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2021
Amser:
09.04 -
09.18
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu ar gyfer cynigion newydd ar gyfer y ddwy eitem ganlynol ddydd Mawrth:
o Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
o Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes hefyd at dynnu'r eitem ganlynol yn ôl, a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher:
· Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o’r Siambr ar y ddau ddiwrnod yr wythnos hon.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm.
4 Deddfwriaeth
4.1 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad oedd amser i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, gan fod y Gorchymyn wedi'i drefnu i'w drafod ar 24 Mawrth.
4.2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am amserlen y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd a chytunodd y Trefnydd i ddosbarthu nodyn gyda mwy o wybodaeth.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr, ac y bydd yr argymhellion yn cael eu dwyn i sylw'r Pwyllgor Busnes newydd.